Craig Roberts

Craig Roberts
Ganwyd21 Ionawr 1991 Edit this on Wikidata
Maesycwmer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, sgriptiwr, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Actor o Gymru yw Craig Roberts (ganed 25 Ionawr 1991). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan 'Oliver Tate' yn y ddrama gomedi Submarine, a 'Rio' yng nghyfres deledu plant The Story of Tracy Beaker.

Ganed Roberts yn Maesycwmer, Caerffili.

Ymddangosodd fel y ffanatic sugnwyr gwaed, Robin Branagh, yn nwy dymor o'r gyfres Young Dracula. Gweithiodd gyda'r Touring Theatre Company yn 2008, gan chwarae rhan 'Ryan' mewn taith ledled Prydain Fawr o 'Full Time'. Mae hefyd wedi ymddangos yn Care, a Casualty. Chwaraeodd ran 'Drax', ym mhantomeim 'Snow White' yn Worthing ym mis Ionawr 2009. Chwaraeodd ran 'Adam' yng nghyfres deledu BBC Three Being Human, a'r gyfres gysylltiedig Becoming Human.[1]

Serenodd Roberts yn ffilm 2010 Submarine[2] sydd hefyd yn serennu Paddy Considine a Yasmin Paige.[3][4] Cafodd Roberts ei enwi'n Berfformiwr Prydeinig y Flwyddyn yng Ngwobrau London Film Critics’ Circle ym mis Ionawr 2012.[5] Ef hefyd oedd y llais ar hysbyseb ffôn symudol HTC One yn 2012, ble mae ffotograffydd yn neidio allan o awyren ar gyfer saethiad ffasiwn.

  1. http://www.bbc.co.uk/programmes/b00y5m86
  2.  Henry Barnes (15 Mawrth 2011). 'I love deadpan': Richard Ayoade and Craig Roberts on Submarine | Film | guardian.co.uk. Guardian.
  3.  James White (6 Tachwedd 2009). Paddy Considine starring in Submarine. TotalFilm.com. Adalwyd ar 15 Mawrth 2012.
  4.  Submarine stars Craig Roberts and Yasmin Paige: Q&A. Film4. Adalwyd ar 15 Mawrth 2012.
  5.  Simon Gaskell (26 Ionawr 2012). Rhymney Valley actor Craig Roberts picks up gong at London Film Critics’ Circle Awards for Submarine. WalesOnline.co.uk. Adalwyd ar 7 Mehefin 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy